Mae ymgyrchwyr sy’n erbyn adeiladu ysgol Gymraeg ar ddarn o dir sy’n “rhy fach” wedi awgrymu safle hen ffatri ‘Tic-toc’ Ystradgynlais fel man mwy addas.

Heddiw cymeradwyodd Cyngor Powys gynllun i gau 10 ysgol gynradd yn ardal Ystradgynlais gan adeiladu pedair ysgol newydd yn eu lle.

Fe fydd y cynllun sy’n cynnwys ailwampio Ysgol Uwchradd Maesydderwen yn Ystradgynlais yn costio £36 miliwn.

Bydd un o’r ysgolion newydd yn Ysgol Gymraeg ar safle Brynderi y dref ond mae ymgyrchwyr ‘Na i Frynderi’ yn teimlo bod y safle yn rhy fach.

Maen nhw hefyd yn dadlau y bydd dewis safle Brynderi ar gyfer yr Ysgol Gymraeg yn golygu symud Cwm Wanderers FC i safle arall, â hynny’n costio £850,000.

“Ynghlwm â phroblemau niferus eraill, hwn fydd y safle lleiaf ond drutaf i’w ddatblygu. Oni fyddai gwell gwario’r arian ar addysg ein plant?” meddai’r grŵp.

Ond er gwaetha’r penderfyniad heddiw dywedodd Geraint Evans o’r grŵp ymgyrchu ‘Na i Frynderi’ ei fod o’n teimlo’n “gadarnhaol” oherwydd bod “sawl aelod o Fwrdd Cyngor Sir Powys wedi lleisio pryderon ynglŷn â’r lleoliad”.

Mae’r ysgolion newydd yn rhan o gynllun gan Gyngor Powys i wario £125m ar ailwampio ysgolion cynradd y sir erbyn 2019.

‘Gwrthwynebu’

Dywedodd Geraint Evans wrth Golwg360 y byddan nhw’n mynd at y Cynulliad a’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, er mwyn gwyrdroi’r “penderfyniad anffodus”.

Er bod cynghorwyr wedi pleidleisio o blaid y cynllun heddiw dyw hi “ddim yn bendant” beth fydd safle’r Ysgol Gymraeg eto.

“Fe fyddwn ni’n codi ein pryderon gyda’r Cyngor eto ac yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cael atebion,” meddai Geraint Evans.

Mae’r ymgyrchwyr yn ffafrio safle’r hen ffatri watsiau – Tic Toc – sydd gerllaw Ysgol Uwchradd Maesydderwen, fel safle ar gyfer yr ysgol gynradd Gymraeg newydd.

Mae’r safle eisoes wedi ei ddiystyru gan swyddogion y cyngor, meddai Geraint Evans. Ond dydyn nhw heb esbonio pam a bydd rhaid mynd i “wraidd y cwestiwn”.

“Ry’n ni’n gobeithio y byddan nhw’n gwneud y peth iawn ac yn defnyddio synnwyr cyffredin ac yn ystyried safle Tic Toc – sy’n llawer mwy addas.”