Mae’r ymdrech i achub 33 dyn sydd wedi’u dal dan-ddaear mewn chwarel yn Chile yn her na fu erioed ei math, meddai arbenigwyr.

Mae’n golygu tri mis o ddrilio, yna taith frawychus o dair awr mewn cawell trwy’r twnel cul sydd wedi’i gerfio trwy’r graig gadarn.

“Maen nhw’n wynebu’r ymdrech achub fwyaf anarferol a welwyd erioed,” meddai Dave Feickert, cyfarwyddwr KiaOra, cwmni ymgynghori diogelwch yn Seland Newydd, sy’n arwain y gwaith achub.

“Mae pob un o’n hymdrechion achub yn cyflwyno materion heriol. Ond mae’r achos hwn yn unigryw,” meddai.

Unigryw ac anhygoel

“Nid oes ymdrech o’r maint yma wedi digwydd o’r blaen; mae’n hollol anhygoel,” meddai Alex Gryska, rheolwr achub pyllau glo gyda Llywodraeth Canada, cyn dweud ei fod yn hyderus y bydd yr ymdrech yn llwyddiannus.

Eisoes, mae’r glöwyr yn derbyn cyngor ynglŷn â maeth ac ymddygiad gan arbenigwyr o NASA. Ond, mae’r swyddogion arbenigol hynny yn pryderu am y pwysau y mae rhai glowyr wedi’i golli ar ôl gweld fideo ohonyn nhw dan-ddaear.

Maen nhw wedi dweud mai’r flaenoriaeth nawr yw “cynyddu calorïau’r glowyr” a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n cael digon o gwsg ac yn cadw’n optimistig.