Mae corff a olchwyd i’r lan yn Llyn ddoe wedi cael ei adnabod fel un y gaiacwraig, Elizabeth Ashbee.

Roedd y wraig 53 oed o Amwythig wedi bod ar goll ers dydd Sul, tra’r oedd hi ac aelodau eraill o Glwb Caiac Amwythig ar ymweliad ag Ynys Môn.

Roedd hi wedi ei gweld ddiwetha’ yn ardal Rhosneigr, cyn i’r tywydd droi. O gofio ei phrofiad yn y caiac, roedd cyfeillion yn gobeithio ei bod wedi cyrraedd glan yn ddiogel, ac mai mater o amser yn unig fyddai cyn y byddai’r heddlu’n dod o hyd iddi.

Ond fe ddaethpwyd o hyd i gorff gwraig ar draeth ger Morfa Nefyn ddoe, ac fe ddaeth y chwilio am Elizabeth Ashbee i ben.