Mae undeb llafur mwya’ ymladdwyr tân yn dechrau pleidleisio heddiw, i benderfynu a fyddan nhw’n mynd ar streic tros fater cytundebau newydd.

Pe bai miloedd o aelodau’r FBU (Fire Brigades Union) yn Llundain yn pleidleisio tros fynd ar streic, fe allai’r ymgyrch honno ddechrau ym mis Medi.

Mae’r balot yn cael ei gynnal yn dilyn cwynion gan ymladdwyr y gallai rhai ohonyn nhw gael eu diswyddo a’u cyflogi drachefn ar gytundebau newydd, a’u gorfodi i weithio shifftiau gwahanol.

“Mae’n drueni mawr bod yn rhaid i ymladdwyr tân Llundain ystyried gweithredu’n ddiwydiannol,” meddai Matt Wrack, ysgrifennydd cyffredinol yr FBU.

“Mae’r bwriad i ddod â chytundebau presennol ymladdwyr tân Llundain i ben, yn warthus.”

Fe fydd canlyniad y bleidlais yn cael ei gyhoeddi ar Fedi 17.