Mae arlynydd Cenia wedi arwyddo cyfansoddiad newydd heddiw, gan gyflwyno sustem newydd, Americanaidd, i gyfraith y wlad.

Mae’r digwyddiad hwn wedi ei ddisgrifio heddiw fel y datblygiad mwya’ yn hanes y wlad ers iddi gyhoeddi ei hannibyniaeth hanner canrif yn ôl.

Mae cyfansoddiad newydd Cenia yn rhan o becyn o ddiwygiadau y mae arweinwyr gwledydd Affrica wedi cytuno iddyn nhw, ers bod yn rhan o gymuned o wledydd yn 2008.

Mae’r ddêl ddiweddara’ hon wedi rhoi diwedd ar drais a welodd 1,000 o bobol yn cael eu lladd yn dilyn etholiad dadleuol Cenia ym mis Rhagfyr 2007.