Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad ger gorsaf reilffordd Y Drenewydd brynhawn ddoe.

Rhwng 1.30pm a 2.00pm, fe ddaeth dyn 32 mlwydd oed wyneb yn wyneb â dyn arall â chyllell, ac fe hawliodd hwnnw arian ganddo.

Wedi cael arian, fe redodd y lleidr o’r orsaf i gyfeiriad canol y dre’. Ni chafodd y gwr 32 oed ei anafu yn y digwyddiad.

Disgrifiad

Mae’r lleidr wedi ei ddisgrifio fel dyn gwyn, tenau, rhwng 25 a 33 oed, a thua chwe throedfedd o daldra. Mae ganddo graith weddol ffres ar ochr chwith ei wyneb.

Ddoe, roedd yn gwisgo côt law las tywyll gyda chwfl, trowsus du a phâr o drênyrs du.

Mae’r heddlu yn Y Drenewydd yn awyddus i siarad ag unrhyw un oedd yn yr ardal ar adeg y lladrad. Gallwch ffonio ar 101, neu alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.