Mae peilot ar goll ar ôl i ddwy awyren ymladd F-16 o wlad Groeg daro’n erbyn ei gilydd yn yr awyr heddiw.

Mae’r ddau beilot arall oedd yn rhan o’r ddamwain wedi cael eu canfod; maen nhw’n fyw a heb eu hanafu’n ddifrifol.

Roedd y ddwy awyren wedi bod yn hedfan mewn patrwm ynghyd â dwy arall yn ystod sesiwn ymarfer.

Fe ddigwyddodd y ddamwain uwchben y môr i’r de o ynys Creta, yn ôl awyrlu gwlad Groeg.