Mae gweithwyr cwmni BAA sy’n aelodau o’r undeb Unite wedi pleidleisio 3:1 o blaid cynnal streic, ac felly wedi gwrthod cynnig y cwmni o godiad cyflog 1%.
Fe fydd cynrychiolwyr Unite yn cyfarfod ddydd Llun nesaf i benderfynu pa fath o weithredu diwydiannol fyddan nhw’n rhan ohono.
Byddai streic gan y gweithwyr yn cael effaith ar feysydd awyr Heathrow, Stansted, Southampton, Glasgow, Aberdeen a Chaeredin, gan mai cwmni BAA sydd berchen y meysydd rheiny.
Rhybudd Cameron
Cyn y bleidlais, fe rybuddiodd Prif Weinidog Prydain, David Cameron, y byddai streic yn gwneud “dim byd ond niwed”.
Ond fe ddywedodd llefarydd cenedlaethol Unite, Brendan Gold, bod canlyniad y bleidlais “yn adlewyrchu teimladau’r staff tuag at agwedd bresennol BAA”.
Mae llefarydd ar ran BAA wedi galw ar undeb Unite i gynnal trafodaethau gyda hwy er mwyn iddyn nhw allu dod i gytundeb yn fuan.