Ar ôl gorffen taith operatig o Ynys Môn i Sir Benfro, fe fydd cwmni OPRA Cymru yn perfformio Carmen a’i Chariadon yng Ngŵyl y Glaw ym Mlaenau Ffestiniog, ddiwedd y mis hwn.
Yn ogystal â’r daith, mae Twm Morys wedi bod yn teithio o amgylch wyth ysgol uwchradd yn gweithio ar gyfieithiad Cymraeg o’r opera wreiddiol gyda disgyblion Cymru.
“Mae’n wych i ni fod yr ardal yn cefnogi beth ydan ni’n ei wneud. Rydan ni’n gobeithio cael cynulleidfa wych ym Mlaenau Ffestiniog,” meddai Sioned Young o OPRA Cymru wrth siarad am berfformiad diweddaraf y cwmni yng Ngŵyl y Glaw.
Gŵyl y Glaw
“Dw i’n siŵr fod rhai pobol yn siomedig am Ŵyl y Faenol – ond fe fydd Gŵyl y Glaw ym Mlaenau’n cael ei chynnal,” meddai Sioned Young wrth Golwg360.
Yng nghynhyrchiad diweddara’ cwmni OPRA Cymru, Carmen a’i Chariadon, mae cantorion Caryl Hughes, Gareth Huw John a Sion Goronwy yn canu gwaith Bizet yn gyfan gwbwl drwy gyfrwng y Gymraeg – a hynny i gyfeiliant Helen Davies ar y piano.
“Mae gan rai pobol ragdybiaeth fod opera’n sych a diflas – rydan ni eisiau denu’r bobol yma. Mae’n perfformiad ni yn llawn hwyl a drama.
“Mi faswn ni’n licio gweld mwy o bobol ifanc yn dod, yn ogystal â’r rhai sydd ddim yn arfer dod.”
Y daith
Eisoes, mae’r cwmni wedi bod ar daith gyda’r perfformiad o Ynys Môn i Sir Benfro, fis Mawrth eleni.
Bydd cyfle i weld y perfformiad yng Ngwyl y Glaw, Blaenau Ffestiniog, ar 28 Awst.