Gallai’r argyfwng economaidd gael effaith ddifrodus ar y Gwasanaeth Iechyd, gyda thoriadau i wasanaethau i gleifion a swyddi’n cael eu colli.

Dyna yw rhybudd y British Medical Association, y gymdeithas sy’n cynrychioli meddygon, wrth ddweud bod gwasanaethau rheng flaen eisoes yn dioddef, a 40% o feddygon ysbyty’n dweud bod triniaethau’n cael eu cyfyngu am resymau ariannol.

Gyda chynhadledd flynyddol y BMA yn agor yn Brighton yfory, mae’r gymdeithas wedi cyhoeddi arolwg barn meddygon ledled Prydain o sefyllfa’r Gwasanaeth Iechyd.

Er bod y Llywodraeth wedi addo gwarantu twf mewn gwariant ar y Gwasanaeth Iechyd, mae ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd wedi cael cyfarwyddyd i gael hyd i £20 biliwn o “arbedion effeithlonrwydd”.

Yn ôl y BMA, bydd yr arbedion hyn yn arwain at doriadau mawr yn y gwasanaeth a roddir i gleifion. Dywed yr arolwg fod 24% o feddygon ysbyty wedi cael gwybod y bydd diswyddiadau’n digwydd yn eu hymddiriedolaeth.

‘Perygl gwirioneddol’

Meddai’r Dr Hamish Meldrum, cadeirydd y BMA: “Er ein bod ni’n derbyn bod angen gwneud penderfyniadau anodd yn yr hinsawdd economaidd yma, mae perygl gwirioneddol y bydd torri’n ôl ar iechyd ar hyn o bryd yn cael effaith pell-gyrhaeddol ar ein gallu i gynnal gofal cynhwysfawr o safon uchel i bawb yn y dyfodol.

“Er gwaethaf addewidion y Llywodraeth y bydd gwasanaethau rheng flaen yn cael eu diogelu, mae ein data ni’n dangos bod toriadau eisoes yn cael eu cynllunio.

“Efallai fod meysydd lle mae angen gwirioneddol i archwilio’r dulliau o weithio er mwyn sichrau cost-effeithiolrwydd.

“Ond yn rhy aml mae’n ymddangos bod penderfyniadau’n cael eu gwneud am resymau gwleidyddol ac ariannol yn hytrach nag ar sail tystiolaeth glinigol dda.”