Mae’r mesur refferendwm ar bwerau deddfu i’r Cynulliad yn debyg o ddod o dan chwyddwydr y Pwyllgor Dethol Seneddol ar Faterion Cymreig yn fuan.
Dywedodd y Cadeirydd newydd, David Davies, AS Mynwy, ei fod yn disgwyl y bydd ei bwyllgor yn edrych ar amseriad y refferendwm, yr arian a fydd yn cael ei ddyrannu i’r ymgyrchoedd o blaid ac yn erbyn – ac ar y cwestiwn ei hun.
Er bod Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyflwyno geiriad y cwestiwn i’r Comisiwn Etholiadol, a mynegi dymuniad i gynnal y refferendwm ym mis Mawrth, mae sylwadau David Davies yn awgrymu y bydd y dadlau’n parhau.
“Er na alla i ddim siarad ar ran aelodau’r pwyllgor, gan nad yw wedi cyfarfod eto, fe fyddwn i’n disgwyl y bydd y refferendwm yn bwnc amlwg y bydd ar y pwyllgor eisiau craffu arno,” meddai David Davies.
Wrth siarad ar raglen y Politics Show heddiw, cadarnhaodd ei wrthwynebiad i ragor o bwerau, ond dywedodd na fyddai’n defnyddio ei sefyllfa fel cadeirydd i hyrwyddo pleidlais ‘na’.
“Mae fy marn i am bwerau deddfu i’r Cynulliad eisoes yn hysbys, ac os gofynnir imi fy marn yn rhinwedd fy swydd fel yr Aelod Seneddol dros Sir Fynwy, fe fydda’ i’n ailadrodd hynny,” meddai.
“Fodd bynnag, dydw i ddim am fanteisio ar y sylw ychwanegol y byddaf i’n ei gael fel cadeirydd y pwyllgor dethol fel ffordd o ddadlau sut y dylai pobl bleidleisio.”