Dylai llywodraeth y Cynulliad ddefnyddio’r Celfyddydau fel ffordd o arwain Cymru allan o’r dirwasgiad, yn ôl y cyn-Weinidog Treftadaeth Rhodri Glyn Thomas.
Wrth bwyso ar y llywodraeth i edrych ar y celfyddydau fel buddsoddiad yn hytrach na gwariant sydd angen ei gwtogi, meddai AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr:
“Gyda’n diwydiannau trwm traddodiadol yn dirywio, mae cyfleoedd newydd yn codi yn y diwydiannau creadigol – a rhaid manteisio arnyn nhw i’r eithaf.
“Mae angen i lywodraeth Cymru ddilyn esiampl yr Arlywydd Roosevelt a fuddsoddodd mewn prosiectau cyhoeddus er mwyn cael America allan o’r dirwasgiad mawr.
“Amser i gynyddu buddsoddiad yw’r dirwasgiad yma, nid amser am doriadau.”
Daw sylwadau Rhodri Glyn Thomas wrth i Gyngor Celfyddydau Cymru baratoi adolygiad trylwyr ar ei wariant, a all effeithio ar hyd at 116 o grwpiau sy’n cael eu cefnogi ganddyn nhw.