Mae gobaith am ddatrys anghydfod British Airways ar ôl i’r cwmni awyrennau gyflwyno cynnig newydd i’w gweithwyr.
Roedd yr undeb Unite ar fin cynnal pleidlais ymysg ei aelodau ar ragor o weithredu diwydiannol, a fyddai wedi parhau’r anghydfod ac wedi arwain at y posibilrwydd o streiciau ym mis Awst.
Yn sgil cynnig newydd gan BA, fodd bynnag, mae’r undeb wedi cytuno i ohirio’r bleidlais.
Mae’r cynnig newydd yn cynnwys codiadau yn y cyflog sylfaenol am ddwy flynedd o fis Chwefror 2011, a thaliad newydd i warantu na fydd y criwiau presennol ar eu colled pan fydd criwiau newydd yn cael eu recriwtio ar delerau gwahanol yn yr hydref.
Wrth wneud y cynnig, dywedodd pennaeth criwiau caban BA, Bill Francis: “Rydyn ni wedi newid ein cynnig yn unol â’r adborth yr ydyn ni wedi ei dderbyn gan y criw, a chredwn o ddifri y gall hyn ddatrys yr anghydfod – sef yr hyn y mae ar y mwyafrif llethol o’r criw a’n cwsmeriaid ei eisiau.”
Mewn ymateb i’r cynnig, cadarnhaodd cyd-arweinydd Unite, Tony Woodley, y byddai’r bleidlais am streic yn debygol o gael ei gohirio “fel y gall ein haelodau adolygu’r cynnig diweddaraf”.
Mae British Airways wedi croesawu’r datganiad gan undeb Unite. “Credwn fod ein cynnig yn deg ac yn rhesymol ac yn rhoi cyfle gwirioneddol i ddod â’r anghydfod i ben,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.
Mae 22 o ddyddiau gwaith wedi cael eu cholli trwy streiciau ers mis Mawrth yn sgil yr anghydfod, ar gost o £150 miliwn i BA.