Rhaid arafu’r mewnfudo i Awstralia yn ôl Prif Weinidog newydd y wlad, Julia Gillard, a ymfudodd yno o Gymru pan oedd hi’n bedair oed.

Daeth i’r amlwg fod y wraig sy’n enedigol o’r Barri yn anghytuno â’i rhagflaenydd Kevin Rudd ar y pwnc sylfaenol o bolisi poblogaeth y wlad.

Cyn iddo gael ei ddisodli gan ei blaid yr wythnos ddiwethaf, roedd Kevin Rudd wedi dweud mewn araith ei fod yn ffafrio “Awstralia fawr” a allai fod â phoblogaeth o 35 miliwn erbyn 2050 petai’r tueddiadau mewnfudo presennol yn parhau.

“Dydw i ddim yn credu mewn Awstralia fawr,” meddai Julia Gillard. “Dydw i ddim yn credu mewn rhuthro at boblogaeth o 36 miliwn neu 40 miliwn.”

Dywedodd mai gallu’r llywodraeth i ddarparu’r ffyrdd a’r gwasanaethau ar gyfer poblogaeth fwy a ddylai fod y ffactor allweddol wrth benderfynu ar fewnfudo yn y dyfodol.

Cyhoeddodd ei bod hi’n bwriadu penodi Gweinidog newydd dros Boblogaeth Gynaliadwy i archwilio’r potensial am dwf.

Twf

Tyfodd poblogaeth y wlad 2% y llynedd – a hynny’n bennaf o ganlyniad i fewnfudo. Mae’n dwf cyflymach nag yn unrhyw wlad ddatblygedig arall. Mae amgylcheddwyr y wlad yn rhybuddio y gallai cynnydd gormodol yn y boblogaeth fygwth bioamrywiaeth y wlad.

Mae poblogaeth Awstralia heddiw yn 22 miliwn – sy’n ddwywaith cymaint ag yr oedd pan ymfudodd Julia Gillard i’r wlad yn 1966.

Llun: Julia Gillard, Prif Weinidog newydd Awstralia