Wrth i Loegr baratoi ar gyfer eu gêm gwpan y byd yn erbyn yr Almaen y prynhawn yma, dywed y capten Steven Gerrard ei fod yn ffyddiog y bydd Lloegr yn ennill.

Dywedodd hefyd fod ganddo bob hyder y bydd blaenwr Manchester United, Wayne Rooney, yn sgorio yn erbyn yr Almaen.

Er nad yw Wayne Rooney erioed wedi sgorio dros Loegr mewn dau dwrnameint Cwpan y Byd, dywedodd Steven Gerrard:

“Dim ond mater o amser yw hi cyn y bydd Wayne yn sgorio yn y twrnameint yma.

“Mae gen i bob hyder y bydd yn chwarae’n dda yn erbyn yr Almaen oherwydd fe wnaeth chwarae’n dda yn y gêm ddiwethaf ac mae’n cael hwyl dda wrth ymarfer.”

Mae pob chwaraewr yn barod at yr her fawr, yn ôl y capten:

“Rydyn ni’n hyderus iawn wrth fynd i’r gêm ar ôl y perfformiad da yn erbyn Slovenia,” meddai.

“Mae pawb mewn hwyliau da, rydyn ni wedi paratoi’n galed am y gêm yma, ac fe wnawn ni beth bynnag y bydd ei angen i gyrraedd yr wyth olaf.

“Mae hi am fod yn gêm anodd iawn. Yn ddelfrydol mae arnon ni eisiau ennill y gêm mewn 90 munud, ond os bydd rhaid mynd i amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn, fe fyddwn ni’n barod.”

Llun: Capten Lloegr, Steven Gerrard