Mae cynlluniau ar y gweill gan y llywodraeth glymblaid yn San Steffan i annog pobl ddi-waith i symud i fyw i rannau o Brydain lle mae swyddi ar gael.

Mewn cyfweliad gyda’r Sunday Telegraph dywed yr Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith, mai ei fwriad yw gwneud gweithlu Prydain “yn fwy symudol”.

Dywed fod gweinidogion yn awyddus i annog pobl ddi-waith sy’n byw mewn tai cyngor i symud o ardaloedd o ddiweithdra uchel i ardaloedd eraill – a allai fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Dywedodd fod miliynau o bobl “wedi eu caethiwo mewn stadau lle nad oes dim gwaith” ac yn methu â symud oherwydd y bydden nhw’n colli eu lle i fyw. Byddai’r cynllun sydd ar y gweill yn caniatáu iddyn nhw fynd i frig rhestr dai mewn ardal arall yn hytrach na cholli eu hawl i gartref.

Gweithluoedd ‘statig’

“Dros y blynyddoedd mae un llywodraeth ar ôl y llall wedi creu un o’r gweithluoedd mwyaf statig yn y byd gorllewinol,” meddai Iain Duncan Smith.

“Ym Mhrydain bellach mae gennyn ni weithluoedd sydd wedi eu cloi mewn ardaloedd ac o ganlyniad i hynny mae dros bum miliwn a hanner o bobl mewn oedran gweithio nad ydyn nhw mewn gwaith.

“Yn aml maen nhw wedi eu caethiwo mewn stadau lle nad oes dim gwaith o fewn cyrraedd – ac oherwydd fod ganddyn nhw denantiaeth oes yn eu tŷ – fe fyddai mynd o ddwyrain Llundain i orllewin Llundain, neu Fryste, yn ormod o risg oherwydd y byddan nhw wedi colli eu hawl i’w tŷ.

“Mae’r cyngor lleol am ddweud wrthych chi nad oes gennych chi hawl i dŷ yno, a dyw’r gymdeithas dai ddim am roi un ichi. Rhaid inni edrych ar sut i gael yr hyblygrwydd fel y gall pobl chwilio am waith a chymryd y risg o wneud hynny.”

Er mai bwriad y llywodraeth yw cynnig cymhellion i weithwyr ail-leoli, yn hytrach na’u gorfodi nhw i symud, mae geiriau Iain Duncan Smith yn sicr o gael eu cymharu â geiriau ei ragflaenydd fel Aelod Seneddol Chingford. Awgrym Norman Tebbit yn 1981 oedd y dylai pobl ddi-waith fynd ar eu beic i chwilio am waith.

Llun: Yr Ysgrifennydd dros Waith a Phensiynau, Iain Duncan Smith