Mae Ghana wedi ennill lle yn wyth olaf Cwpan y Byd gyda buddugoliaeth yn erbyn yr Unol Daleithiau mewn amser ychwanegol.

Fe fydd y tîm yn wynebu Uruguay, wnaeth faeddu De Korea yn gynharach heddiw, yn y rownd nesaf.

Ghana oedd yr unig dim o Africa yn yr 16 olaf a roedd yna bwysau mawr arnyn nhw cyn y gêm i gadw’r freuddwyd yn fyw er lles y cyfandir gyfan.

Mae’r Unol Daleithiau wedi dechrau’n wael a gorffen yn dda yn bron i bob gem un o’u gemau hyd yn hyn a dyna sut oedd hi heddiw hefyd – am 90 munud, o leiaf.

Sgoriodd Lloegr yn eu herbyn ar ôl pedwar munud a llwyddodd Kevin Prince Boateng i ddianc i lawr yr asgell heibio’r amddiffyn a sgorio ar ôl pum munud yn unig yn y  gêm yma.

Daeth yr Unol Daleithiau yn ôl yn yr ail hanner a pan faglwyd Clint Dempsey gan Jonathan Mensah yn y blwch cosbi penderfynodd y dyfarnwr eu bod nhw’n haeddu cic gosb.

Sgoriodd seren yr Unol Daleithiau, Landon Donovan, y gic gosb gan blesio’r cyn arlywydd Bill Clinton oedd yn gwylio’r gêm gyda Mick Jagger yn yr eisteddle.

Yr Unol Daleithiau oedd y tîm goraf dros ugain munud olaf yr ail hanner ac roedd y ddau dîm yn edrych fel pe baen nhw’n barod i setlo’r gêm yn yr amser ychwanegol.

Ond yn anffodus i’r Unol Daleithiau roedd dechrau’r amser ychwanegol bron a bod yn union yr un fath a’r hanner cyntaf, wrth i Asamoah Gyan sgorio ar ôl tri munud.

Roedd o’n gawlach arall gan amddiffynwyr yr Unol Daleithiau wrth i Andre Ayew daro bel gobeithiol i lawr y cae. Enillodd Asamoah Gyan y ras gyda’r amddiffynwyr a’i daro i gefn y rhwyd.

Roedd angen ymdrech mawr gan chwaraewyr blinedig yr Unol Daleithiau i ddod yn ôl i’r gêm ac roedd Ghana yn chwarae cystal ag yn yr hanner cyntaf unwaith eto.