Uruguay yw’r tîm cyntaf i gyrraedd rownd yr wyth olaf Cwpan y byd ar ôl iddynt guro De Korea 2-1 yn Port Elizabeth.

Dyma’r tro cyntaf ers 1970 i Uruguay, wnaeth ennill y gystadleuaeth ddwywaith yn ei ddyddiau cynnar, gyrraedd yr wyth olaf.

Sgoriodd Luis Suarez ddwy gôl, unwaith ar ôl wyth munud ac eto ar ôl 80 munud i ennill y gêm. Daeth y cyntaf o gamgymeriad gan gôl-geidwad De Korea a fethodd a chasglu’r bel wrth iddo rowlio heibio ceg y gôl.

Ar ol y gôl gyntaf fe wnaethon Uruguay amddiffyn am rannau helaeth o’r gêm tan i gôl Lee Chung-Yong ar ôl 68 munud eu gorfodi nhw i ymosod eto.

Daeth y gôl honno o gic rydd gan De Korea. Ceisiodd Maurico Victorino benio’r bel yn ôl ond glaniodd y tu ôl iddo wrth draed Lee Chung-Yong a’i tarodd i gefn y rhwyd.

De Korea oedd y tîm gorau am rannau helaeth o’r gêm ac fe wnaethon nhw greu sawl cyfle ond heb fedru cael y bel i gefn y rhwyd.

Bu bron i Park Chu-Young sgorio ar ôl pum munud wrth i’r gic rydd daro postyn y gôl.

Ac fe allai Lee Chung-Yong sgorio fod wedi sgorio ail gol cyn y diwedd ar ôl i’r capten Park Ji-Sung roi’r bel iddo o flaen y gôl ond ciciodd ef i afael y gôl-geidwad.