Mae FIFA wedi cadarnhau y bydd yna “fesurau diogelwch ychwanegol” wrth i Loegr a’r Almaen gwrdd yn Bloemfontein yfory.

Fe fydd Lloegr a’r Almaen yn cyfarfod yn rownd yr 16 olaf yng Nghwpan y Byd De Affrica.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol FIFA, Jerome Valcke, ei fod o’n benderfynol bod y gêm yn cael ei chwarae heb unrhyw drwbl gan gefnogwyr y naill dîm.

Bydd mwy o heddlu yn cael eu symud i Bloemfontein ar gyfer y gêm rhwng yr hen elynion.

“Rydym ni wedi cytuno gyda heddlu De Affrica y bydd yna nifer o fesurau diogelwch ychwanegol,” meddai Jerome Valcke.

“Bydd rhai yn weladwy a bydd rhai ddim yn weladwy. Mae’r dechrau cynnar am 4pm yn gwneud pethau’n haws nag gem gyda’r nos hefyd.”

Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn Trefnu Lleol, Danny Jordaan, bod “y wlad gyfan yn edrych ymlaen at y gêm”.

“Rydyn ni wedi bod yn cyfarfod gyda’r heddlu er mwyn trafod diogelwch ac rydw i’n siŵr y bydd y cefnogwyr yn cael amser gwych.

“Mae’r gêm wedi digwydd yn gynt na’r disgwyl ond mae’n anodd rhagweld unrhyw beth yng Nghwpan y Byd.”