Mae miloedd o offeiriaid o amgylch y byd yn cyfarfod yn Rhufain heddiw i gefnogi’r pab sydd wedi bod o dan pwysau yn sgil yr hanesion o gam-drin plant sydd wedi siglo’r eglwys.
Fe fydd y pab yn cyfarch yr offeiriaid heddiw mewn gwasanaeth arbennig ar Sgwâr San Pedr.
Dyw swyddogion ddim wedi cadarnhau a fydd y pab yn cyfeirio at y sgandal camdrin ai peidio.
Ond, mae uwch swyddogion eisoes wedi dweud fod y sgandal rhyngwladol wedi achosi niwed a difrod i’r eglwys ac wedi dangos angen am ‘ail enedigaeth ysbrydol.’
Fe fydd tua 9,000 o offeiriaid yn Rhufain heddiw.
Llun: Y Pab Benedict XVI