Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau eisiau i Israel lacio ei gwarchae ar Lain Gaza ar ôl helyntion yr wythnosau diwetha’.

Does dim modd cynnal yr hyn sy’n digwydd yno, meddai Barack Obama, wrth iddo gyfarfod ag Arlywydd Palesteina, Mahmoud Abbas, yn yr Unol Daleithiau ddoe.

Mae sylw’r byd ar y “broblem,” meddai, gan ddweud fod cyrch Israel ar longau cymorth i Gaza yn “drasiedi”. Fe gafodd naw o ymgyrchwyr eu lladd wrth i Israel rwystro’r llongau rhag torri’r blocâd.

Ers y digwyddiad, mae Israel wedi bod o dan bwysau i newid polisi, gyda nifer o’i chyfeillion traddodiadol hyn yn oed yn condemnio’r weithred.

Atal arfau

Yn ôl Barack Obama, mae’n iawn i Israel atal arfau rhag mynd i mewn i’r wlad ond fe ddylen nhw ganiatáu “nwyddau pob dydd” sy’n hanfodol ar gyfer datblygiad economaidd.

Yn ystod ymweliad Mahmoud Abbas â’r Unol Daleithiau ddoe, fe gyhoeddodd yr Unol Daleithiau becyn cymorth ariannol i Gaza o £276 miliwn.

Fe groesawodd Mahmoud Abbas y pecyn cymorth a fydd, meddai, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer creu swyddi a chyflenwi mwy o ddŵr yfed glân.

Cyfle

Yr hyn sy’n “allweddol,” yn ôl Barack Obama yw “gwneud yn siŵr bod anghenion diogelwch Israel yn cael eu bodloni, ond bod anghenion pobol Gaza yn cael eu diwallu hefyd.”

Mae angen ceisio sicrhau fod “trasiedi” cyrch Israel yn cael ei droi’n “gyfle i wella bywydau pobl Gaza,” meddai.

Llun: Barack Obama