Wrth i weithwyr caban baratoi i bleidleisio i fynd ar streic eto, mae prif weithredwr British Airways wedi gwrthod derbyn taliad bonws am yr ail flwyddyn yn olynol.

Gwrthododd Willie Walsh werth £334,000 o gyfrannau gohiriedig – cyfrannau sydd â llai o hawliau na rhai arferol.

Ond fe gyhoeddodd y cwmni na fyddai unrhyw weithwyr yn derbyn bonws ariannol chwaith ar ôl blynyddoedd o helbul a cholledion.

Pleidlais arall

Yn y cyfamser, mae gweithwyr caban BA yn dychwelyd i’w gwaith heddiw, ar ôl gweithredu’n ddiwydiannol dros gyfnod o 22 diwrnod. Ond fe gadarnhaodd undeb Unite eu bod eisoes yn cynllunio pleidlais ar gyfer streicio pellach.

Mae’r streiciau wedi costio dros £150 miliwn i’r cwmni ac mae disgwyl i’r ddwy ochr geisio trafod unwaith eto – prif asgwrn y gynnen bellach yw’r ffordd y mae BA wedi cosbi’r streicwyr trwy fynd â rhai o’u breintiau nhw.

Roedd y ddadl wreiddiol rhwng y ddwy ochor yn ymwneud a chyflog, amodau gwaith, a breintiau teithio, ond fe gafodd honno ei datrys.

Petai’r gweithwyr caban yn pleidleisio tros ragor o streiciau, fe allai effeithio ar deithiau’r cwmni tros gyfnod gwyliau’r haf – er bod BA eu hunain yn dweud eu bod wedi gallu cynnal y rhan fwya’ o’u gwasanaethau trwy gyfnod y streiciau diweddara’.

BT hefyd

Mae gweithwyr y cwmni cyfathrebu BT hefyd yn mynd i bleidleisio dros neu yn erbyn mynd ar streic.

Penderfynodd yr undeb sy’n eu cynrychioli i fwrw ymlaen â’r bleidlais ar ôl gwrthod cynnig newydd gan BT mewn dadl am gyflogau.

Roedd y cwmni’n honni fod eu cynnig yn cyfateb i godiad cyflog o 5.1% dros 21 mis, ac yn dweud eu bod wedi “synnu a siomi” ei fod wedi cael ei wrthod.

Ond mae Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu am weld codiad cyflog o 5% mewn blwyddyn.