Bydd miloedd o weithwyr BT yn pleidleisio i fynd ar streic ar ôl i’r cwmni telathrebu anferth fethu â chyrraedd terfyn amser i gynnig mwy na chynnydd o 2% mewn tâl.

Dywedodd yr Undeb Gweithwyr Cyfathrebu y bydd 50,000 o aelodau yn pleidleisio i weithredu’n ddiwydiannol.

Penderfynodd yr undeb gynnig tan 12pm heddiw i BT roi cynnig gwell neu wynebu’r streic gyntaf ers 20 mlynedd.

Cwynodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Andy Kerr, am “safonau dwbl digywilydd” ar ôl i BT gyhoeddi taliadau bonws mawr i’w brif weithredwyr, gan gynnwys £1.2 miliwn i’r prif weithredwr Ian Livingston.

“R’yn ni’n amlwg yn siomedig iawn nad ydi BT wedi gwella ar ei gynnig o 2% er gwaethaf elw iach eleni,” meddai Andy Kerr.

“Does gyda ni ddim dewis bellach ond cynnal pleidlais ar gyfer streicio. R’yn ni wedi dweud yn blaen nad ydi 2% yn ddigon pam mae’r cwmni yn gwneud elw o dros 31 biliwn.

“Mae ein haelodau ni’n anhapus iawn ynglŷn â’r safonau dwbl digywilydd wrth gymharu tâl y rheini ar y brig gyda gweddill gweithwyr y cwmni.

“Dydan ni ddim yn gofyn am y ddaear, rydan ni’n gofyn am siâr deg a fforddiadwy o lwyddiant BT. Os ydy o’n dda digon da i’r gweithredwyr mae’n ddigon da i’r staff.

“Rydan ni’n agored i unrhyw gynigion newydd gan BT, ond dim ond diwygio’r tâl fydd yn dod â’r anghydfod yma i ben.”

Dywedodd llefarydd ar ran BT bod eu cynnig terfynol nhw yn “deg ac yn well na’r codiad cyflog sy’n cael ei dderbyn gan weithwyr eraill”.