Catrin Haf Jones, Aelwyd Aeron, Aberaeron gipiodd coron Eisteddfod yr Urdd yn ei milltir sgwâr yng Ngheredigion heddiw.

Derbyniodd Catrin ei haddysg yn Ysgol Gynradd Llanarth ac Ysgol Gyfun Aberaeron cyn graddio o Adran Y Gyfraith, Prifysgol Durham y llynedd.

Ar hyn o bryd, mae Catrin yn astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor.

Gwennan Evans, Aelwyd CF1, Caerdydd, ddaeth yn ail a Gwawr Eleri Jones, Aelod Unigol, Cylch Llambed sy’n cael y drydedd wobr.


‘Arbennig’

‘‘Mae ennill y Goron mewn Eisteddfod leol yn deimlad arbennig iawn. Hoffwn ddiolch i’m hathrawon Cymraeg yn Ysgol Gyfun Aberaeron yn ogystal ag Adran Y Gymraeg, Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth,” meddai.

“Ond yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i’m teulu am eu hysbrydoliaeth ddiddiwedd.’’

Pan yn iau, roedd Catrin yn aelod brwd o Aelwyd yr Urdd Pandy, Llanarth a hi fu’n gyfrifol am sefydlu Aelwyd yr Urdd Durham yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol.

Heddiw, mae Catrin yn aelod o Aelwyd Aeron yn ogystal ag Aelwyd John Morris Jones, Bangor.

Mae gan Catrin ddiddordeb mawr mewn materion cyfoes a gwleidyddiaeth yn ogystal ag amaeth a’r celfyddydau. Mae hefyd yn mwynhau darllen, ysgrifennu a theithio.

Rhoddir replica’r goron eleni gan Gwenan a Deian Creunant er cof am eu rhieni Alun a Megan Creunant Davies. Noddwyd y seremoni heddiw gan HSBC.