Mae maint y tyrfaoedd yng Nghynghrair rygbi Magners ar gynnydd – yng Nghymru yn ogystal â’r Alban ac Iwerddon.

Roedd 5.5 y cant yn fwy o bobol wedi mynd i’r gemau eleni na llynedd – cyfanswm o 771,852 o bobol – a hynny heb gynnwys y gemau cwpan ychwanegol ar ddiwedd y tymor.

Mae hynny’n golygu bod cyfartaledd o 8,576 o bobol wedi mynd i bob gêm, o’i gymharu gyda 3,802 yn 2003-2004 pan sefydlwyd y drefn bresennol.

• Ers symud o Barc yr Arfau i Stadiwm Dinas Caerdydd mae nifer y bobol sy’n mynd i wylio Gleision Caerdydd wedi codi 25 y cant.

• Ac, er gwaetha’ tymor siomedig iawn, roedd cyfartaledd torfeydd y Scarlets wedi codi o 7,293 i 7,357 yn eu hail dymor ym Mharc y Scarlets yn Llanelli.

Munster o Iwerddon oedd yn denu’r torfeydd mwyaf gyda chyfartaledd o 18,600 o bobol yn mynd i bob gêm , cynnydd o 4 y cant ar y tymor blaenorol.

Glasgow a welodd y cynnydd mwyaf, gyda 28 y cant yn fwy yn mynd i’r gemau eleni.