Gallai heddiw nodi cyfnod haws yn ariannol i fodurwyr am gyfnod wrth i un o’r archfarchnadoedd gyhoeddi gostyngiad mewn pris tanwydd.

O yfory ymlaen, bydd Asda yn cynnig gostyngiad o ddwy geiniog y litr mewn pris petrol, a gostyngiad o geiniog am ddisel – 115.9c y litr fydd pris petrol, a 118.9c y litr fydd pris disel.

Gallai’r penderfyniad yma olygu y bydd cystadleuwyr eraill yn y farchnad danwydd yn ymateb drwy ostwng eu prisiau nhw hefyd.

Adlewyrchu cwymp mewn costau sydd wedi arwain at y penderfyniad yma, yn ôl cyfarwyddwr masnachol Asda, David Miles.

Ond mae cymdeithas foduro’r AA wedi dweud fod angen mwy o ostyngiad, wedi i gyfanwerth prisiau petrol yng ngogledd orllewin Ewrop ddisgyn yn ddiweddar.

Roedd pris petrol wedi cyrraedd ei lefel uchaf erioed yng ngwledydd Prydain yr wythnos ddiwethaf, i gyfartaledd o 121.61c y litr.