Mae llwybrau awyr ym Mhrydain ac Iwerddon wedi ailagor y prynhawn yma ar ôl i gwmwl lludw folcanig Gwlad yr Iâ ddychwelyd i greu trafferthion i filoedd o deithwyr yn ystod y bore.

Fe fu’n rhaid cau meysydd awyr ar draws Iwerddon ac ar rai o ynysoedd yr Alban a doedd dim hedfan i mewn ac allan o Weriniaeth Iwerddon na Gogledd Iwerddon chwaith.

Fe godwyd y gwaharddiad am un y prynhawn ond mae meysydd awyr, gan gynnwys Heathrow yng ngorllewin Llundain, yn rhybuddio teithwyr i holi eu cwmnïau hedfan cyn cychwyn o gartref, oherwydd oedi posibl.

Yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain, mae’n debyg y bydd cwmnïau yn gorfod talu tua £62 miliwn mewn iawndal i rai sydd a gafodd eu heffeithio gan y cwmwl llwch fis diwethaf.

Llum: Roedd Ryanair ymhlith cwmnefau a ganslodd rai o’u teithiau