Mae’r Gleision wedi ennill eu lle yn rownd derfynol y Cwpan Amlin ar ôl curo Wasps 18-15 ar Barc Adams.

Fe sgoriodd tîm Dai Young dau gais gyda Leigh Halfpenny a Gethin Jenkins yn croesi’r llinell i’r rhanbarth Cymreig.

Bu rhaid i’r tîm cartref ddibynnu ar gicio Dave Walder, gyda’r maswr yn llwyddo gyda thair cic gosb yn yr hanner cyntaf i sicrhau bod y Saeson 9-8 ar y blaen ar yr egwyl.

Ond y Gleision cafodd y gorau o’r ail hanner gyda Jenkins yn sgorio ail gais y gêm a’r cefnwr Ben Blair yn llwyddo gyda’r trosiad.

Fe ychwanegodd Blair cic gosb arall i sicrhau mantais 18-12 i’r Gleision.

Llwyddodd Walder gyda’i bumed gic gosb i leihau’r fantais i dri phwynt cyn iddo fethu cic hwyr a fyddai wedi mynd a’r gêm i amser ychwanegol.

Fe fydd y Gleision yn mynd ‘mlaen i wynebu Toulon yn y rownd derfynol ym Marseille ar 23 Mai.