Fydd Plaid Cymru ddim yn bargeinio i gynnal llywodraeth sydd am dorri mwy na’r disgwyl ar wario cyhoeddus yng Nghymru.
Dyna addewid arweinydd y Blaid, Ieuan Wyn Jones, ar raglen radio Today ac fe ddywedodd y bydden nhw’n ceisio cael £300 miliwn ychwanegol i’r wlad.
Dyma’r union eiriau: “Dyw unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn eisiau torri cyllideb Cymru’n eithafol yn y flwyddyn gyntaf ddim y math o blaid y gallen ni daro bargen â nhw.
“Allwn ni ddim gwneud dêl gydag unrhyw blaid sydd eisiau torri cyllideb Cymru yn fwy llym nag sydd wedi ei gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesa’.”
Mae hefyd yn galw ar i Gymru dderbyn y £300 miliwn y mae’r Blaid yn dweud sy’n ddyledus oherwydd diffygion yn y fformiwla sy’n dosbarthu arian o Lundain.
Beth mae’r lleill yn ei ddweud
Yr wythnos hon fe ddywedodd y Canghellor Llafur, Alistair Darling, ei fod eisiau cadw’r fformiwla – Fformiwla Barnett – ond ei fod am wneud yn siŵr na fyddai Cymru’n cael cam.
Er bod y Ceidwadwyr yn cynllunio toriadau llymach na’r pleidiau eraill mewn gwario cyhoeddus, maen nhw hefyd wedi dweud y bydden nhw’n gwarchod cyllideb Cymru yn y flwyddyn nesa’.
Fe ddywedodd Ieuan Wyn Jones ei fod yn derbyn y byddai Cymru’n colli £3 biliwn yn ystod oes y senedd nesa’.
Llun: Ieuan Wyn Jones