Mae chwaraewyr Caerdydd, Peter Whittingham a Michael Chopra wedi cael eu enwi yn y tîm sy’n cael ei ddewis gan aelodau o Gymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol (PFA).

Mae Whittingham wedi sgorio 23 gôl o ganol cae y tymor hwn, ac mae ar frig restr prif sgorwyr y Bencampwriaeth gyda 20 i’w enw.

Fe ddywedodd y Gymdeithas Chwaraewyr Proffesiynol bod goliau Whittingham wedi bod yn “fonws” enfawr i’r Adar Gleision.

Y tri arall

Mae Chopra wedi sgorio 19 gôl y tymor hwn, sy’n cynnwys 16 yn y gynghrair. Mae’r ymosodwr yn bedwerydd ar restr y prif sgorwyr.

Mae cyn amddiffynnwr Caerdydd, Chris Gunter hefyd wedi cael ei enwi yn nhîm y flwyddyn. Mae’r Cymro wedi helpu Nottingham Forest i’r gemau ail-gyfle ar ddiwedd y tymor.

Fe gafodd amddiffynnwr Abertawe, Ashley Williams ei enwi yn nhîm y flwyddyn hefyd. Mae Williams wedi helpu Abertawe i sicrhau un o recordiau amddiffynnol gorau’r adran y tymor hwn.

Tîm y Flwyddyn y Bencampwriaeth

Lee Camp (Nottingham Forest),
Chris Gunter (Nottingham Forest),
Fabricio Coloccini (Newcastle),
Ashley Williams (Abertawe),
Jose Enrique (Newcastle),
Graham Dorrans (West Brom),
Peter Whittingham (Caerdydd),
Kevin Nolan (Newcastle),
Charlie Adam (Blackpool),
Andy Carroll (Newcastle),
Michael Chopra (Caerdydd)