Mae cynghorydd blaenllaw o Flaenau Ffestiniog wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio’i wraig.

Mae Gwilym Euros Roberts, 40 oed, yn y ddalfa yn dilyn digwyddiad neithiwr pryd y bu’n rhaid mynd â’i wraig Catrin i Ysbyty Gwynedd.

Mae’n un o sylfaenwyr y blaid Llais Gwynedd, ac ef yw cynrychiolydd wardiau Diffwys a Maenofferen ar Gyngor Gwynedd.

Mae hefyd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd dros Llais Gwynedd yn etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.