Mae rhanbarth y Gleision wedi derbyn ergyd gyda’r newyddion nad yw Tom Shanklin a Gareth Cooper yn debygol o chwarae eto’r tymor hwn.

Fe anafodd Shanklin ei ben-glin yn erbyn Ulster y penwythnos diwethaf ac fe fydd yn colli’r pedair gêm sy’n weddill yn y Cynghrair Magners yn ogystal â’r gêm Cwpan Amlin yn erbyn Newcastle.

Mae yna amheuon hefyd a fydd y canolwr yn ffit i chwarae ar daith Cymru i Seland Newydd dros yr haf.

“Ni fydd Tom yn chwarae am weddill y tymor ac rwy’n credu ei fod yn amheuaeth am daith yr haf hefyd,” meddai hyfforddwr y Gleision, Dai Young.

“Dyw’r anaf ddim yn bryder mawr- y ben-glin arall sydd wedi achosi problemau i Tom yn y gorffennol- ond fe fydd angen gwneud rhywbeth.”

Fe fydd Cooper allan o’r daith i wynebu Ulster yn Ravenhill dydd Sadwrn a’r gemau yn erbyn y Scarlets, y Dreigiau a Munster oherwydd anaf i’w werddyr.

“Fe fydd rhaid i ni ymdopi a newid pethau o amgylch er mwyn cadw pawb yn ffres, ond mae yn ergyd i ni,” meddai Young.

Carfan y Gleision

Cefnwyr- Richard Mustoe, Chris Czekaj, Ben Blair, Leigh Halfpenny, Casey Laulala, Jamie Roberts, Tom James, Ceri Sweeney, Richie Rees, Darren Allinson, Dai Flanagan, Dafydd Hewitt

Blaenwyr- Scott Andrews, John Yapp, Gethin Jenkins, Faao Filise, Gareth Williams, Rhys Thomas, Rhys Williams, Scott Morgan, Deiniol Jones, Andries Pretorius, Paul Tito, Maama Molitika, Martyn Williams, Sam Warburton, Xavier Rush