Mae dyfodol Clwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr, y Bridgend Ravens, yn edrych yn fwy sefydlog ar ôl iddynt gadarnhau fod buddsoddiad sylweddol i ddod gan Llandarcy Park Ltd.
Mae’r clwb wedi bod trwy gyfnod anodd yn ddiweddar gan ddisgyn allan o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf ac mae nhw’n ei chael hi’n anodd yn Adran Un y Gorllewin y tymor hwn.
Mae Pen-y-bont ar Ogwr yn gobeithio bydd y buddsoddiad yma’n gymorth i sicrhau dyfodol rygbi ar Gae’r Bragdy yn ogystal â’u helpu nhw yn eu hymdrech i ennill dyrchafiad ‘nôl i’r Uwch Gynghrair yn y dyfodol agos.
Croesawodd Cyfarwyddwr Perfformiad y Gweilch, Andrew Hore, y buddsoddiad gan ddweud y bydd yn hwb mawr i rygbi yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
“Mae newyddion y buddsoddiad yn hwb mawr i rygbi yn ardal Pen-y-bont. Mae’n rhan bwysig o’r rhanbarth ac wedi cynhyrchu nifer o chwaraewyr talentog dros y blynyddoedd”, meddai Andrew Hore.
“Mae gan y clwb a’r ardal draddodiad o ddatblygu chwaraewyr rygbi ardderchog ac am nifer o flynyddoedd, roedd yn un o dimau blaenllaw rygbi Cymru.
“Caiff hyn ei weld wrth edrych ar garfan bresennol y Gweilch gyda nifer sylweddol o chwaraewyr yn dod o’r ardal yma, gan gynnwys Tom Prydie, Gareth Owen a Ryan Bevington.
“Mae buddsoddiad Llandarcy Park Ltd yn gwarchod dyfodol y clwb ac yn sicrhau na fydd y llinell cynhyrchu werthfawr yma’n cael ei cholli am byth.”
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Clwb Rygbi Pen-y-bont ar Ogwr, David Rees bod y buddsoddiad yn dod â chyfnod pryderus i ben.
“Doedd e’ ddim yn gyfrinach ein bod ni wedi bod dan straen ariannol mawr a heb help Llandarcy Park Ltd roedd ‘na bosibiliad y byddai’r clwb wedi cael ei orfodi i ddwylo’r gweinyddwyr,” meddai David Rees.
“Nawr fod y sefyllfa wedi cael ei sefydlogi, r’yn ni’n obeithiol y bydd y clwb yn dychwelyd i’r Uwch Gynghrair, a dyna sydd angen ar yr ardal”, ychwanegodd David Rees.