Mae clo Cymru, Alun-Wyn Jones wedi dychwelyd o’i anaf i’r fainc ar gyfer gêm y Gweilch yn erbyn y Scarlets yn y Stadiwm Liberty nos yfory.
Dyw’r ‘Llew’ ddim wedi chwarae gêm o rygbi ers dioddef anaf i’w benelin pan enillodd Cymru yn erbyn yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad tua saith wythnos yn ôl.
Fe fydd y newyddion yn hwb mawr i’r rhanbarth wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Biarritz yn San Sebastian yn y Cwpan Heineken yr wythnos nesaf.
Newyddion y tîm
Mae asgellwr Cymru, Shane Williams hefyd wedi gwella o anaf ac mae wedi cael ei gynnwys ar y fainc.
Fe fydd Tommy Bowe a Nikki Walker yn cychwyn ar yr esgyll gyda Lee Byrne yn gefnwr.
Dan Biggar a Mike Phillips yw haneri’r Gweilch tra bod James Hook ac Andrew Bishop yn cychwyn yn y canol.
Bydd Jonathan Thomas ac Ian Gough yn yr ail reng i’r rhanbarth tra bod cyn chwaraewyr y Crysau Duon, Jerry Collins a Marty Holah yn y rheng ôl gyda’r capten Ryan Jones.
Y propiau Paul James ac Adam Jones ynghyd â’r bachwr Richard Hibbard sy’n cwblhau’r rheng flaen.
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Tommy Bowe 13 Andrew Bishop 12 James Hook 11 Nikki Walker 10 Dan Biggar 9 Mike Phillips
1 Paul James 2 Richard Hibbard 3 Adam Jones 4 Ian Gough 5 Jonathan Thomas 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Ryan Jones.
Eilyddion- 16 Huw Bennett 17 Craig Mitchell 18 Alun Wyn Jones 19 Filo Tiatia 20 Jamie Nutbrown 21 Sonny Parker 22 Shane Williams.