Mae Prif Hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, wedi dweud bod angen i’w dîm sicrhau’r pwyntiau yn y gêm ddarbi yn erbyn y Gweilch yn y Stadiwm Liberty nos yfory.

Ar hyn o bryd y Scarlets yw’r rhanbarth Gymreig isaf yn y Gynghrair Magners ac o ganlyniad i hyn, maen nhw’n wynebu methu’r Cwpan Heineken y tymor nesaf.

“Mae hon yn gêm enfawr i ni ac mae’n rhaid i ni sicrhau’r pwyntiau,” meddai Davies.

“Ond mae hi hefyd yn gêm bwysig i’r Gweilch. Mae’r Gweilch ddeg pwynt ar y blaen i ni, ond os allwn ni ennill yn eu herbyn fe fydd y Gweilch hefyd yn y frwydr i ennill eu lle yn Ewrop.

“Mae’n mynd i fod yn gêm drydanol i’r ddau dîm – fe fydd y pwysau arnyn nhw i sicrhau’r fuddugoliaeth oherwydd eu bod nhw’n chwarae adref ac fe fydd pwysau arnom ni hefyd i gasglu pwyntiau,” ychwanegodd Nigel Davies.

Newyddion y tîm

Mae maswr Cymru a’r Llewod, Stephen Jones yn ôl yn y tîm yn ogystal ag asgellwr yr Alban, Sean Lamont.

Fe fydd Jones a Lamont yn ychwanegu profiad ar adeg holl bwysig gyda dim ond pedair gêm yn weddill yn y Gynghrair Magners.

Mae Nigel Davies wedi penderfynu dewis y chwaraewr ifanc, Tavis Knoyle yn safle’r mewnwr.

Fe fydd bachwr Cymru a’r Llewod, Matthew Rees yn dychwelyd i’r pymtheg cyntaf gyda Ken Owens yn cymryd ei le ar y fainc.

Mae Rhys Priestland yn symud i safle’r cefnwr gyda Daniel Evans ar y fainc.

“Rwy’n hapus gyda’r tîm a fydd yn teithio i’r Liberty ac rwy’n siŵr y cawn weld gêm dda. Mae rhai o’r chwaraewyr mwy profiadol yn ôl ar gyfer y gêm yma ac fe fyddwn ni’n gystadleuol iawn nos Wener,” meddai Prif Hyfforddwr y Scarlets.

Carfan y Scarlets

15 Rhys Priestland, 14 Sean Lamont, 13 Regan King, 12 Jonathan Davies 11 Andy Fenby, 10 Stephen Jones, 9 Tavis Knoyle.

1 Iestyn Thomas, 2 Matthew Rees, 3 Deacon Manu, 4 Lou Reed, 5 Dominic Day, 6 Rob McCusker, 7 Richie Pugh 8 David Lyons.

Eilyddion- 16 Phil John, 17 Ken Owens, 18 Rhys Thomas 19 Damian Welch, 20 Josh Turnbull, 21 Martin Roberts, 22 Daniel Evans.