Fel rhan o gynllun i wella pysgodfeydd môr, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cymryd cyfrifoldeb llawn am eu rheoli yng Nghymru.

Mae’r newidiadau hyn yn golygu bod Llywodraeth y Cynulliad yn cymryd y cyfrifoldeb dros bysgodfeydd ardal fwy nag erioed o’r blaen – yn estyn allan cyn belled â ffin y llinell ganol â Gweriniaeth Iwerddon ac Ynys Manaw.

“Mae Pysgodfeydd Glannau (Inshore fisheries) yn hynod bwysig i gymunedau yng Nghymru,” meddai’r Gweinidog dros Faterion Gwledig, Elin Jones.

“Maen nhw’n cyfrif am y rhan fwyaf o ddiwydiant Cymru. Dyna pam y mae mwy o reolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru mor bwysig.

“Mae’r ailstrwythuro hefyd yn gam pwysig tuag at sicrhau nod Strategaeth Pysgodfeydd Cymru sy’n ceisio creu diwydiant pysgota cynaliadwy, ariannol hyfyw sy’n cael ei reoli’n effeithiol yng Nghymru.”

Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal adolygiad llawn o’r ddeddfwriaeth mewn ymgynghoriad â rhan ddeiliaid, i sicrhau bod y mesurau priodol yn eu lle.