Llinos Dafydd, golygydd cylchgrawn Wcw a’i Ffrindiau, sydd wedi bwrw golwg ar lyfr newydd i blant gan Meilyr Siôn …
Nid yn aml dw i’n hoffi llyfrau i blant sy’n traethu’n ddifrifol, a phan wnaeth Ysbryd y Sbwriel lanio ar fy nesg (anniben, mae gen i gywilydd i gyfadde’, ond annibendod trefnus, er hynny), a gweld ei fod yn stori sydd â neges amgylcheddol a gwyrdd, ro’n i’n gobeithio na fyddai yna bregeth mawr ynglŷn a chadw pethau’n daclus.
Ond wele, a minnau’n bwrw ati i ddarllen, dyma ochenaid o ryddhad.
Darllen difyr – a lluniau gwych, yn ychwanegu at glamp o gymeriadau annwyl sy’n byw mewn parc yng nghanol y ddinas.
Derwyn Derwen, Lleucu’r Wiwer, Dwynwen Draenog, Rhiannon y Robin, Waldo’r Gwningen, Cêt Cwac a Bobi Barlat – enwau sy’n codi gwên.
Yn y bôn, stori sydd yma am berson “drwg” sydd wedi taflu cwdyn mawr du yn llawn sbwriel mewn i’r parc – ac o ganlyniad, mae’r bag yn rhwygo ac yn gadael i’r holl sbwriel ‘ddawnsio’n wyllt’ o gwmpas y parc.
Ond wrth i Lleucu’r Wiwer weld yr holl drugareddau’n hedfan o gwmpas y lle, dyma hi’n penderfynu cydio mewn bag papur gwyn, torri tyllau ynddo fel llygaid, ac esgus ei bod hi’n ysbryd er mwyn codi ofn ar y creaduriaid eraill.
Elfen o ddrygioni, felly, sydd wastad yn mynd lawr yn dda gyda phlant – ac mae ei hochenaid hi’n wych – “Cnau castanwydden!”
Wrth gwrs, mae pawb yn cael braw – a’i chosb? Tacluso’r parc i gyd, a thaflu’r sbwriel yn y bin, a hynny ar ôl i’w ffrindiau ei helpu hi wedi iddyn nhw ei darganfod hi’n sownd.
Moeswers sy’n werth ei dysgu … ac ar y diwedd, maen nhw i gyd yn mynd i gael cawl panas a moron yn nhŷ Waldo’r Cwningen, a gwelir y rysait ar ddiwedd y llyfr – syniad da!
Mae’r brawddegau sy’n igam-ogamu ar draws y tudalennau yn ychwanegu at flas hwylus y llyfr – ac ochenaid hyfryd arall sydd i’w weld ydy ‘Mawredd y moron’ gan Waldo.
Pethau bach fel hyn sy’n ychwanegu stamp fach unigryw at y stori – dw i’n siŵr y bydd plantos bach Cymru’n dotio at y cymeriadau.
Mae angen fflach o wreiddioldeb fel hyn o dro i dro, er mwyn rhoi gwên ar wynebau plant, a rhieni, Cymru.
Ysbryd y Sbwriel (Cyfres Parc y Deri), Gwasg Gomer, £4.99