Mae’r Crusaders wedi arwyddo’r chwaraewr profiadol, Clinton Schifcofske ac fe fydd yn chwarae ei gêm gyntaf i’r clwb yn erbyn Harlequins ar y Gnoll heno.

Mae’r cefnwr 34 oed wedi sgorio 1,604 o bwyntiau yn ystod ei yrfa gyda Parramatta a Canberra.

Fe gynrychiolodd Schifcofske New South Wales yng nghystadleuaeth State of Origin y dalaith.

Mae’r cefnwr wedi bod yn chwarae rygbi’r undeb gydag Ulster yn y Gynghrair Magners ers dwy flynedd ac mae hefyd wedi treulio cyfnod yn chwarae dros y Queensland Reds yn y Super 14.

Mae hyfforddwr y Crusaders, Brian Noble wedi dewis Clinton Schifcofske fel aelod o’i garfan yn lle’r cefnwr ifanc, Elliott Kear.