Mae perchennog siop Gymraeg y Rhyl wedi dweud ei bod yn “loes calon” ganddo orfod cau drysau’r siop ar y stryd fawr.

Mae perchennog Siop y Morfa yn Rhyl wedi cadarnhau wrth Golwg360 y bydd y siop yn cau ei drysau’r penwythnos hwn ar ôl cyfaddef ei bod yn “amhosibl” cadw’r siop stryd fawr yn agored yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

“Mae gweld y siop yn diflannu oddi ar y stryd fawr yn loes calon i mi. Dw i’n teimlo lot o euogrwydd am y peth,” meddai Dafydd Timothy, perchennog Siop y Morfa ers 29 o flynyddoedd.

“Roedd cael siop Gymraeg yma wedi ailddeffro Cymreictod mewn ardal eithaf Saesnig.”

Y til yn tawelu

“Dydw i ddim wedi cerdded allan o hyn ar chwarae bach. Ond, dydi’r til ddim yn dweud celwydd ar ddiwedd y dydd,” meddai, cyn ychwanegu fod pethau wedi bod yn dirywio ar y stryd fawr ers dwy flynedd.

“Mae’r to hŷn o Gymry sy’n llengar yn diflannu. Does dim hanner gymaint o ffyddloniaid nawr,” meddai Dafydd Timothy cyn ychwanegu bod “cyfuniad o ffactorau” wedi bod yn gyfrifol am y penderfyniad i gau’r siop ar y stryd fawr.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae llawer iawn o ddatblygiadau wedi bod gan gynnwys datblygiadau mawr ar gyrion trefi fel Trafford Park; mae’r we wedi newid natur siopa; mae diffyg llefydd parcio mewn trefi ac yn ddiweddar fe ddaeth y dirwasgiad ariannol.”


Methu â chystadlu

Mae siopau mawr fel Sainsbury’s a Tesco’s “wedi’i deall hi” meddai Dafydd Timothy.

“Maen nhw wedi tynnu gwerthiant cryno ddisgiau fel Bryn Terfel, Côr y Fron a Katherine Jenkins oddi wrthon ni drwy’u gwerthu nhw ar golled – yn rhatach na’r hyn y maen nhw’n eu costio i brynu. Fedrwn i ddim fforddio gwneud hynny,” meddai.

“Mae siopau sy’n gwneud hyn wedi ein tanseilio – er ei bod hi’n wych gweld Bryn Terfel yn Sainsbury’s,” meddai.

“’Dw i eisio pobol feddwl fy mod i wedi gwneud rhywbeth o werth ers 29 o flynyddoedd yn Rhyl,” meddai cyn dweud fod y Cyngor Llyfrau a Sain wedi bod yn “gaffaeliaid gwych, yn gefn ac yn gymorth.”

Parhau gyda’r wê

Bwriad Dafydd Timothy nawr fydd “parhau i werthu” a datblygu gwefan newydd Siop y Morfa gan gadw enw’r siop a’r cytundebau gydag ysgolion a chwsmeriaid.

Eisoes, mae Dafydd Timothy yn gwerthu llyfrau ail law ar wefannau Amazon ac Abe books, a bydd yn parhau i wneud hyn.