Mae Prif Gwnstabl newydd Heddlu De Cymru, Peter Vaughan yn fodlon ystyried datganoli cyfrifoldeb am Gyfraith a Threfn i Gymru.

O dan ei arweiniad, mae pob un o brif swyddogion heddlu’r De yn dysgu Cymraeg a mae yna restr aros am wersi.

Sicrhau tegwch i’r Gymraeg yn Heddlu De Cymru yw un o’i flaenoriaethau.

“Pan ddes i nôl o Wiltshire fe es i’r Stafell Reoli a chlywed rhai’n ateb y ffôn yn y Gymraeg. Gofynnais wedyn a fydden nhw’n gallu cario’r sgwrs ymlaen yn y Gymraeg a doedd neb yn gallu gwneud hynny,” meddai Peter Vaughan.

“Mae’n rhaid ein bod yn gallu gwneud dipyn mwy na’r cyfarchiadau elfennol yn unig. Felly, dw i wedi gorfod newid ein diwylliant gweithio rhywfaint er mwyn gallu rhyddhau staff i fynd i wersi.

“Rydyn ni wedi penodi Swyddog yr Iaith Gymraeg ac mae bron i 70 o’n staff yn cael hyfforddiant i wahanol lefelau.

“Mae pob un o’r prif swyddogion yn dysgu Cymraeg i Lefel 1 y CBAC, gan gynnwys fi. Ond y newyddion gorau yw bod 250 ar y rhestr aros!”

Yr her ynghanol cyfnod o gwtogi ariannol

Mae Peter Vaughan yn dechrau ar ei waith ar un o’r cyfnodau anoddaf yn hanes yr heddlu. Mae ei Heddlu eisoes yn wynebu toriad o £8 miliwn ar y gyllideb.

Mae’n rhybuddio y bydd yn rhaid ystyried toriadau gan gynnwys ystyried dyfodol gorsafoedd heddlu yng nghanol y brifddinas.

“Does gen i ddim bwriad i leihau nifer y staff sy’n gweithio i ni nac i gwtogi ein gwasanaethau ‘front line’ na chwaith ein hymroddiad at y Gymraeg,” meddai Peter Vaughan.

“Ond mae’n rhaid edrych o ddifri ar ein gwasanaethau. Wrth feddwl am Gaerdydd, oes rhaid i ni gael gorsaf yng nghanol y ddinas, un arall o fewn llai na milltir iddo yn Cathays ac un arall eto yn y Rhath? Oes ishe’r tair? Dw i ddim yn siŵr.”

Darllenwch weddill y stori yn Golwg, Ebrill 1