Yn ôl arbenigwr ar wleidyddiaeth Cymru, fe fydd yr etholiad cyffredinol a ddisgwylir ym mis Mai yn un o’r mwyaf cyffrous ers tro i Gymru.

Mae Denis Balsom, sy’n gyfrifol am ddadansoddi ystadegau etholiadol yn The Wales Yearbook, yn disgwyl i’r Ceidwadywr wella tipyn ar eu tair sedd yn 2005.

Er hynny’n mae’n amheus a fydd y blaid yn cyrraedd y record o 14 sedd a oedd ganddi ar ôl etholiad 1983 ar ddechrau cyfnod Margaret Thatcher yn Brif Weinidog.

Seddi i gadw golwg arnynt

“Sedd ddiddorol yw Gorllewin Abertawe. Mae Alan Williams, Tad y Tŷ yn sefyll i lawr. Yr her fawr yno yw’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai.

“Wedyn Gorllewin Caerfyrddin a Gogledd Penfro – yn etholiadau’r Cynulliad, aeth y sedd honno i’r Ceidwadwyr, ond gwnaeth Plaid Cymru’n dda yno hefyd. Mae’n sedd ymylol tair ffordd wirioneddol. Gyda Nick Ainger yn Weinidog yn y Cabinet, fe fydd yn ergyd fawr i [Lafur] golli honno.”

Problem bosibl arall i Lafur yw’r nifer o aelodau sy’n ymddeol eleni – Betty Williams, Martin Jones a John Smith yn eu plith.

Yn ôl Denis Balsom, gallai cefnogaeth bersonol yr etholwyr gadw’r seddi ymylol yn nwylo Llafur ond fe fydd yn waith caled i olynydd gadw’r teyrngarwch hwnnw mewn hinsawdd sy’n troi’n gynyddol Geidwadol.

Fe fydd sawl dylanwad ar sut y bydd pobol yn dewis bwrw pleidlais, yn ôl Denis Balsom, gan na fydd yr ymgeiswyr yn dechrau gyda phleidleiswyr niwtral, ond pobol sydd â thuedd tuag at un blaid neu’r llall.

Fe fydd yn rhaid i’r Ceidwadwyr berswadio pleidleiswyr traddodiadol Llafur i newid eu ffyrdd a Llafur eu perswadio bod gwerth dod allan i bleidleisio drostyn nhw.

Mae llawer o bleidleiswyr newydd wedi ymddangos ers 2005 ond yr her yw eu cael nhw i bleidleisio o gwbl, meddai.

Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 1