Mae’r pwysau’n cynyddu ar y Gweinidog Addysg i benderfynu ar ad-drefnu addysg gynradd yn ardal Treganna, Caerdydd.
Ddiwrnod wedi i Leighton Andrews gyhoeddi y bydd dwy ysgol uwchradd Saesneg yn ardal Tredelerch-Rhymni yn cau i greu un ysgol i’r ardal, roedd rhieni Ysgol Gynradd Treganna ar risiau’r Senedd yn galw am benderfyniad ar ddyfodol eu hysgol nhw.
Yn ôl y Gweinidog Addysg mae’r cynnig i symud Ysgol Treganna yn un cymhleth, gyda nifer wedi gwrthwynebu, ac mae am gymryd ei amser i ddod i benderfyniad fydd yn dal dŵr.
Ond yn ôl rhieni sy’n cwyno fod y safle presennol yn rhy fach, mae Leighton Andrews yn osgoi gwneud penderfyniad.
“Mae’n 62 wythnos ers cyhoeddi’r argymhellion gan Gyngor Caerdydd i symud Ysgol Treganna i’r safle ger stryd Norfolk,” meddai Nia Williams, rhiant yn Ysgol Treganna a threfnydd y brotest ym Mae Caerdydd.
Cyflwynodd Cyngor Caerdydd ei argymhellion i Adran Addysg y Cynulliad fis Awst y llynedd.
“Dw i’n meddwl mai dyma’r hiraf mae’r [Cynulliad] wedi cymryd i drafod cynnig gan y cyngor a r’yn ni’n gobeithio cael rhyw fath o ateb ganddyn nhw,” meddai Nia Williams.
“Wrth fod yr wythnosau’n mynd yn eu blaen mae’r plant a’r staff yn parhau i weithio mewn amodau mae pawb yn cytuno sydd yn gwbwl annerbyniol felly 62 wythnos o drafod, dyw e ddim yn dderbyniol.”
Gweddill y stori yn Golwg, Ebrill 1