Fe fydd Cwmni Theatr Urdd Gobaith Cymru yn gweithio am ddwy flynedd ar brosiect unigryw i gyd-fynd â dathliadau’r Gemau Olympaidd a Pharaolympaidd.
Bydd y bobol ifanc rhwng 14 a 19 yn gweithio dan gyfarwyddyd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig newydd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd.
Fe fydden nhw wedyn yn llwyfannu perfformiad unigryw yn ystod Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.
Dyma’r prosiect theatr cyfrwng Cymraeg cyntaf i dderbyn ‘Marc Ysbrydoli,’ sef cydnabyddiaeth gan Lundain 2012 o brosiect “sy’n ysbrydoli”.
“Mae’r prosiect newydd hwn yn hynod gyffrous ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’n datblygu dros y tair blynedd nesaf,” meddai Aled Siôn, cyfarwyddwr Eisteddfod Urdd Gobaith Cymru.