Mae pobl yn eu 60au a’r 70au bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef y math gwaethaf o ganser y croen na’u rhieni, yn ôl ymchwil newydd gan elusen Cancer Research.

Fe gafodd yr ymchwil, sy’n rhan o ymgyrch SunSmart, ei lansio heddiw. Y ‘bŵm babanod’ sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf yn achosion melanoma (canser y croen) erioed, meddai’r adroddiad.

‘Newid patrymau’

Mae cyfradd dioddefwyr wedi codi o saith ym mhob 100,000 o bobl yng nghanol yr 70au i 36 o achosion fesul 100,000 heddiw.

Daeth gwyliau tramor rhad yn boblogaidd yn y 70au, pan oedd y genhedlaeth yn eu 20au a’u 30au.

Ymysg dynion yn eu 60au a’r 70au mae’r cynnydd mewn melanoma fwyaf dramatig. Maen nhw saith gwaith yn fwy tebygol o ddioddef canser y croen nag oedd eu rheini yn y 1970au.

“Rydan ni dal yn brwydro yn erbyn Melanoma,” meddai Caroline Cerny, rheolwr Ymchwil Canser SunSmart. “Heddiw mae’r broblem yn bygwth gwaethygu wrth i bobl ifanc yn ei harddegau ddefnyddio gwelyau haul.”