Mae streiciau awyr ym Mhacistan wedi lladd naw o wrthryfelwr ffin Afghanistan, cyhoeddwyd heddiw.

Mae’r ymosodiad diweddaraf yn dod a nifer y bobl sydd wedi’u lladd gan fyddin Pacistan yn ystod yr wythnos ddiwethaf i dros 100 o bobl.

Fe ddigwyddodd y brwydro yn Orakzai, ardal lwythol yng ngorllewin Pacistan. Roedd nifer o wrthryfelwyr y Taliban wedi symud yno ar ôl cael eu gwthio allan o’u prif gadarnleoedd gan y fyddin.

Ond wrth i’r fyddin glirio rhai ardaloedd, mae gwrthryfelwyr Taliban yn tueddu i symud i bentrefi eraill, ble nad oes gan y wladwriaeth bresenoldeb.

Mae’r Unol Daleithiau wedi canmol ymdrechion Pacistan i gael gwared ar y gwrthryfelwyr gan ddweud ei fod o’n waith hanfodol er mwyn ennill y rhyfel yn erbyn y Taliban tu draw i’r ffin yn Afghanistan.