Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud fod gwelliant economaidd ar y gorwel yng Nghymru, yn sgîl y cyhoeddiadau diweddar ynglŷn â chreu swyddi yn y de.

Wrth siarad yn y Senedd heddiw, roedd Carwyn Jones yn cyfeirio at ddatblygiadau diweddar yn ardaloedd Trecelyn, Caerdydd ac Abertawe.

Honnodd eu bod nhw’n dangos fod Cymru yn gwneud yn “dda iawn” wrth greu swyddi.

• Mae tua 200 o swyddi yn cael eu creu yn ardal Caerffili, gan y cwmni amddiffyn Americanaidd, General Dynamics. Bydd y cwmni yn agor safle ger Trecelyn ar gyfer adeiladu tanciau a cherbydau rhyfel eraill ar gyfer Byddin Prydain.

• Mae Barclaycard yn mynd i symud 250 o swyddi o Glasgow i Gaerdydd, ac mae gwesty pum seren yn mynd i gael eu hadeiladu yn y brifddinas, a allai gyflogi 200 o bobol.

• Mae Virgin Atlantic Airways wedi cyhoeddi eu bod yn mynd i greu 200 o swyddi mewn adran gwasanaethau cwsmeriaid newydd yn Abertawe dros y ddwy flynedd nesaf.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn credu ei bod yn “deg i ddweud ein bod yn dechrau gweld adfywiad o’n blaen ni”.

“Er, mae hi siŵr o fod yn iawn i ddweud hefyd fod gennym ni ffordd pell i fynd eto. R’yn ni’n hyderus y bydd yna ragor o gyhoeddiadau yn y dyfodol a mwy o waith yng Nghymru.”

‘Tangyflawni’

Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, wedi dweud nad ydi Carwyn Jones yn gallu derbyn gwir sefyllfa’r economi o dan y Blaid Lafur.

Honnodd fod Llywodraeth y Cynulliad wedi “tangyflawni” wrth ddenu buddsoddiad i Gymru.

Dywedodd fod Llafur bob tro yn gadael grym â diweithdra yn uwch na pan ddechreuon nhw, “a fydd hyn ddim yn eithriad” mynnodd.

Ffigurau diweithdra

Cyhoeddwyd ffigurau wythnos ddiwethaf oedd yn dangos fod cynnydd wedi bod yn y nifer o bobol sydd allan o waith yng Nghymru ers y chwarter diwethaf, tra bod cwymp ar gyfartaledd wedi digwydd ar draws y Deyrnas Unedig.

Dangosodd y ffigurau fod y nifer o bobol sydd allan o waith yng Nghymru wedi cynyddu 9,000. Ond dangosodd y ffigurau hefyd fod y nifer o bobol sy’n hawlio budd-daliadau i’r di-waith wedi gostwng 1,900.