Mae Senedd yr Unol Daleithiau wedi pleidleisio o blaid mesur yn ymestyn gofal iechyd i filiynau o Americanwyr sydd heb yswiriant iechyd.

Gyda’r holl Weriniaethwyr yn erbyn y cynnig, roedd y bleidlais yn un agos iawn, gyda dim ond saith pleidlais o fwyafrif, 219-212.

Fe ddaw’r canlyniad yma ag ymdrech blwyddyn gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, i ddiwygio system iechyd y wlad, i benllanw.

Gwneud gwahaniaeth

Fe fydd y mesur newydd yn sicrhau bod 32 miliwn o Americanwyr sydd ar hyn o bryd heb yswiriant iechyd, nawr yn gallu cael gofal iechyd.

Roedd y Gweriniaethwyr yn gwrthwynebu’r mesur gan rybuddio y byddai’n golygu cynnydd o $900bn yn y dreth.

Hanesyddol

Mae’r mesur yn golygu’r newid mwyaf i sustem iechyd yr Unol Daleithiau ers sefydlu Medicare a Medicaid yn 1965 o dan weinyddiaeth yr Arlywydd Lyndon Johnson a ddarparodd gofal iechyd i’r henoed a’r tlawd.

“R’yn ni wedi profi ein bod ni’n dal i fod y math o bobol sy’n gallu cyflawni pethau mawr,” meddai Barack Obama ar ôl y canlyniad neithiwr.

“R’yn ni wedi profi bod y llywodraeth yma – llywodraeth y bobol gan y bobol – yn dal i weithio dros y bobol.”