Mae dau adeilad pum llawr wedi cwympo yn ninas Liege yn nwyrain Gwlad Belg.

Roedd yr adeiladau yng nghanol y ddinas ac, yn ôl adroddiadau, fe wnaethon nhw gwympo rai oriau ar ôl ffrwydrad am tua 1am amser Cymru.

Cafodd nifer o adeiladau eraill eu difrodi hefyd o achos y ffrwydrad, ac mae amheuaeth y gallai mwy ohonyn nhw gwympo.

Ar hyn o bryd, mae adroddiadau bod o leiaf 20 o bobol wedi eu hanafu a dau o’r rheiny’n ddifrifol.

Mae gwasanaethau brys yn dal i weithio i geisio dod o hyd i bobol o dan y difrod.

Yn ôl adroddiadau, nwy yn gollwng oedd achos mwyaf tebygol y ffrwydrad.