Mae dyn wedi cael ei ddarganfod yn fyw o dan y difrod yn Haiti, bythefnos ar ôl i ddaeargryn daro’r ynys.

Daethpwyd o hyd i Rico Dibrivell, 35, gan bobol oedd wedi bod yn ysbeilio o weddillion siop.

Rhoddodd milwyr o’r Unol Daleithiau driniaeth i’r dyn a oedd wedi torri ei goes ac yn dioddef o ddiffyg dŵr.

Honnodd Rico Dibrivell ei fod wedi bod yn sownd yno ers i’r daeargryn daro ar 12 Ionawr, ac roedd ei deulu wedi dweud ei fod ar goll ers pythefnos. Does dim gwybodaeth ynglŷn â sut yn union y daeth trwyddi.

Mae mwy na 130 o bobol wedi cael eu hachub gan dimau achub, a llawer o rai eraill gan bobol leol.

Ond roedd hyn yn y dyddiau cyntaf ar ôl y trychineb, ac mae’r tebygolrwydd fod pobol yn goroesi heb ddŵr yn y fath sefyllfa am gyfnod mor faith yn isel.

Tynnwyd person arall yn fyw o’r difrod ddydd Sadwrn diwethaf hefyd gan dîm rhyngwladol.

Peryg i’r plant

Mae un o’r elusennau dyngarol wedi rhybuddio am y peryg i blant sydd wedi byw trwy’r trychineb.

“Mae tua miliwn o blant unig, amddifad neu blant sydd wedi colli un rhiant” meddai Kate Conradt, llefarydd ar ran Achub y Plant

Mae’r plant yma’n agored iawn i niwed, yn fregus iawn ac mewn peryg o gael eu targedu gan bobl sy’n prynu ac yn gwerthu plant.”

Yn ôl Kate Conradt, mae’r Grŵp wedi helpu 6,000 o blant ers i’r daeargryn daro’r ynys.

Maen nhw wedi sefydlu 13 o aneddiadau plant ar draws yr ardal gyda’r Groes Goch ynghyd â grwpiau eraill sy’n gweithio i aduno teuluoedd a rhoi plant mewn gofal amddifad.

Mae asiantaeth blant y Cenhedloedd Unedig, Unicef, hefyd wedi sefydlu gwersyll arbennig i fechgyn a merched sydd wedi’u gwahanu oddi wrth eu teuluoedd yn y daeargryn.