Fe fu farw Angharad Jones, awdur un o nofelau diweddar mwya’ poblogaidd yr iaith Gymraeg.

Roedd hi wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn 1995 gyda’r nofel Y Dylluan Wen a gafodd ei gwneud yn ffilm deledu ac sydd wedi bod ar faes llafur arholiadau Cymraeg.

Mae Golwg360 yn deall bod ei chorff wedi ei ddarganfod yn ystod neithiwr neu oriau mân y bore ym Mhenarth ger Caerdydd.

Roedd hi wedi bod yn glaf mewn ysbyty lleol.

Roedd hi’n ferch i’r darlledwr adnabyddus Gwyn Erfyl ac yn ogystal â’i gwaith sgrifennu roedd hi’n adnabyddus ym myd y teledu yng Nghymru ac, am gyfnod, wedi bod yn gyfrifol am ddrama yn S4C.

Yr heddlu’n cadarnhau

Fe gadarnhaodd yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i gorff gwraig yn ei 40au yn y môr ym Mhenarth yn oriau mân y bore.

Fe ddywedodd llefarydd eu bod wedi cael cymorth gwylwyr y glannau a bod swyddogion yn ymchwilio. Dydyn nhw ddim wedi gallu cadarnhau unrhyw fanylion ond maen nhw’n gofyn i unrhyw un sy’n gallu cynnig gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 01656 655555.

Llun (Jeff Morgan)